Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

1.2.      Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

1.3.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd Jenny Rathbone AS ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

1.4.      Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai e'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(15.00 - 16.15)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 7

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Chris Buchan, Pennaeth Polisïau’r Trydydd Sector a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

·         Chris Buchan, Pennaeth Polisïau’r Trydydd Sector a Chymunedau, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i ddarparu:

·         Gwybodaeth bellach gan Rwydwaith Amgylcheddol Sefydliadau'r Trydydd Sector ynghylch annog cymunedau i ddefnyddio gwasanaethau awyr agored;

·         Gwybodaeth bellach am y fenter Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant.

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Gohebiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch trin gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch trin gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn ystod pandemig y coronafeirws.

 

3.2

Gwybodaeth ychwanegol gan y Groes Goch Brydeinig ynglŷn ag effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Groes Goch Brydeinig ynglŷn ag effaith COVID-19

 

3.3

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas ag effaith COVID-19.

 

3.4

Gwybodaeth ychwanegol gan Helpforce Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.a. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Helpforce Cymru a CGGC mewn perthynas ag effaith COVID-19

 

3.5

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru mewn perthynas ag effaith COVID-19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.a. Nododd y Pwyllgor ymateb i’r ymgynghoriad gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Cofnodion:

4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(16.15 - 16.30)

5.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol – trafod y dystiolaeth a gafwyd.

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.