Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

1.2.      Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

 

1.3.      Nododd y Cadeirydd, os bydd yn gadael y cyfarfod heb rybudd am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y bydd Dawn Bowden AS yn dod yn Gadeirydd dros dro, a hynny’n unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(13.30 - 14.30)

2.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol – sesiwn dystiolaeth 4

Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cydffederasiwn y GIG

Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daniel Hurford, Pennaeth Polisïau (Gwella a Llywodraethu), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cydffederasiwn y GIG

·         Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

·         Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·         Daniel Hurford, Pennaeth Polisi (Gwella a Llywodraethiant), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

(14.45 - 15.30)

3.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol – sesiwn dystiolaeth 5

Amanda Carr, Cyfarfwyddwr, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe

Bethan Russell Williams, Prif Swyddog, Mantell Gwynedd

Chris Johnes, Prif Weithredwr, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Amanda Carr, Cyfarwyddwr, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe

·         Bethan Russell Williams, Prif Swyddog, Mantell Gwynedd

·         Chris Johnes, Prif Weithredwr, yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau

 

(15.45 - 16.30)

4.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol – sesiwn dystiolaeth 6

Patience Bentu, Arweinydd Cenedlaethol Ymgysylltu â'r Gymuned, Race Council Cymru

Rocio Cifuentes, Prif Weithredwr, Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (EYST)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Patience Bentu, Arweinydd Cenedlaethol Ymgysylltu â'r Gymuned, Race Council Cymru

·         Rocio Cifuentes, Prif Weithredwr, Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru (EYST)

 

5.

Papur(au) i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r broses o graffu ar yr adroddiad blynyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â’r broses o graffu ar yr adroddiad blynyddol

 

5.2

Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â data Cwynion y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â data Cwynion y GIG

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(16.30 - 16.45)

7.

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(16.45 - 17.15)

8.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – trafod y broses benodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Trafododd y Pwyllgor y dull gweithredu ar gyfer y broses o benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

(17.15 - 17.20)

9.

Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) – trefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1. Cytunodd y Pwyllgor ar drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 mewn perthynas â’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)