Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.50-10.55)

1.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Trefn Ystyried - cytuno mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1.      Cytunodd y Pwyllgor ar y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 y Bil.

 

(10.55-11.00)

2.

Ystyried gohebiaeth gan Archwilio Cymru ynghylch Adran 118 o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Archwilio Cymru ynghylch Adran 118 o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

 

(11.00)

3.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r cyfarfod.

 

3.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

3.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

3.4 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Caroline Jones AS.

 

(11.00-12.30)

4.

Ymchwiliad i effaith Covid-19: sesiwn dystiolaeth ar lywodraeth leol

Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC

Y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC

Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC

Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, CLlLC

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC
  • Y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Grŵp Ceidwadol CLlLC
  • Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC
  • Chris Llewelyn, Prif Weithredwr, CLlLC

 

4.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tystion i wneud y canlynol:

  • Darparu rhagor o wybodaeth am y gwersi y mae llywodraeth leol wedi’u dysgu wrth ymdrin â’r pandemig.
  • Rhannu gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ynghylch ysgogiad economaidd yn ystod y pandemig.

 

(12.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.30-12.45)

6.

Ymchwiliad i effaith COVID-19: trafod y dystiolaeth.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan Eitem 4.