Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Fideo gynadledda drwy Zoom

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/06/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

 

1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai'n gadael y cyfarfod am ryw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.4 Dirprwyodd David Melding AS ar ran Mark Isherwood AS ar gyfer eitem 8, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

 

(14.00-14.45)

2.

Ymchwiliad i Covid-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:

·         Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru

 

2.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tyst i wneud y canlynol:

·         rhoi tystiolaeth bresennol, os yw’n bosibl, ar hunanladdiad sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig;

·         rhoi gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag aflonyddu a stelcio.

 

 

(15.00-15.45)

3.

Ymchwiliad i Covid-19 a'i effaith: sesiwn dystiolaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais arall ar Sail Rhywedd, Camdrin Domestig a Thrais Rhywiol

 

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:

·       Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

 

3.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y tyst i wneud y canlynol:

·       rhoi gwybodaeth am strategaeth ymadael y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer dod â’r cyfyngiadau symud i ben;

·       rhoi gwybodaeth benodol am raglenni cyflawnwyr.

(15.45)

4.

Papur i’w nodi

4.1

Ymateb gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fudd-daliadau yng Nghymru - 20 Mai 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru wedi’i ddiweddaru i adroddiad y Pwyllgor ar Fudd-daliadau yng Nghymru.

 

(15.45)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(15.45-15.55)

6.

Sesiynau tystiolaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

(15.55-16.05)

7.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytuno arni.

(16.05-16.15)

8.

Bil Diogelwch Tân: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Tân.