Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Pwyllgor yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Caroline Jones AC. Dirprwyodd David Melding AC ar ran Mark Isherwood AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Isherwood AC am ei absenoldeb o eitem 8.

 

1.3.      Datganodd Huw Irranca-Davies AC fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 3

Douglas Haig, Is-gadeirydd a Chyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

David Cox, Prif Weithredwr, ARLA | Propertymark

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       David Cox, Prif Weithredwr, ARLA | Propertymark

·       Douglas Haig, Is-gadeirydd a Chyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd ARLA | Propertymark i ddarparu nodyn ynghylch a fyddai unrhyw un o'r cynigion yn y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn torri deddfwriaeth hawliau dynol.

 

 

 

(10.40 - 11.40)

3.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 4

Rob Simkins, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru

Dan Wilson Craw, Cyfarwyddwr, Generation Rent

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Rob Simkins, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru

·       Dan Wilson Craw, Cyfarwyddwr, Generation Rent

 

3.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Generation Rent i ddarparu ystadegau manwl o Arolwg Tai Lloegr ar ddigartrefedd sy’n ganlyniad i droi allan heb fai.

 

(11.40 - 12.40)

4.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 5

Alun Evans, Uwch-swyddog Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth, Cyngor ar Bopeth

Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru

Nick Morris, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu (Cymru), Crisis 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Alun Evans, Uwch-swyddog Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth, Cyngor ar Bopeth

·       Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru

·       Nick Morris, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu (Cymru), Crisis

 

4.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Shelter Cymru i rannu manylion eu hymchwil i Safon Cartref Byw, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.

 

 

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

5.2

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

5.3

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21.

 

5.4

Llythyr gan y Llywydd ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.40 - 12.50)

7.

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.

 

(12.50 - 12.55)

8.

Ystyried yr ymateb i’r llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb i’r llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).