Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 01/05/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3 a 6 Cofnodion: 2.1
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(09:30-10:00) |
Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: Adborth o sesiynau'r grwpiau ffocws Nodyn i grynhoi’r grwpiau ffocws Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adborth a gafwyd o'r sesiynau
a gynhaliwyd â'r grwpiau ffocws. |
|
(10:00-11:30) |
Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: Sesiwn Dystiolaeth 5 ·
Ken Skates, Gweinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth ·
Simon Jones, Cyfarwyddwr,
Isadeiledd Economaidd ·
Dewi Rowlands, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Trafnidiaeth, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Papur briffio Papur 1 – Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: · Ken Skates, Gweinidog yr Economi a
Thrafnidiaeth · Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd · Dewi Rowlands, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi,
Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth 4.2
Cytunodd y Gweinidog i gymryd y camau a ganlyn: · darparu rhagor o wybodaeth am nifer yr
achosion o bobl yn camddefnyddio'r cynllun bathodyn glas yng Nghymru, gan
gynnwys manylion y data sydd gan yr Awdurdod Twyll Cenedlaethol sy'n dangos bod
20 y cant o fathodynnau glas yn cael eu camddefnyddio ledled y DU; ·
darparu
manylion ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio gweithdai hyfforddi a
phecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer asesiadau bathodyn glas; a · darparu manylion am y gyfran o achosion o
gamddefnyddio'r system y gellir ei gwaredu drwy ddileu bathodynnau nad ydynt yn
ddilys. |
|
(11:30-11:35) |
Papurau i’w nodi |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Gwneud gwaith craffu yn ‘Addas at y Dyfodol’ Papur 2 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ynghylch gwneud gwaith craffu yn ‘Addas at y Dyfodol’. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Gorchymyn Gwasanaeth Carchardai 4650 cyfredol ar Hawliau Pleidleisio Carcharorion Papur 3 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y
Gorchymyn Gwasanaeth Carchardai 4650 cyfredol ar Hawliau Pleidleisio
Carcharorion. |
||
Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3a
Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ynghylch yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. |
||
(11:35-12:00) |
Ymchwiliad i Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4. |