Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/04/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.

 

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4

Sarah Rees, Cyfarwyddwr, Career Women Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Sarah Rees

 

 

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 5

Dilwyn Roberts-Young, Is-Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC

Jenny Griffin, Trefnydd Ardal, Unsain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dilwyn Roberts-Young, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC

·         Jenny Griffin, Trefnydd Ardal, Unsain

 

3.2        Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd UCAC i ddarparu'r adroddiad o'r gwaith a wnaed yn San Steffan mewn perthynas ag athrawon sy'n gweithio yn hwyrach yn eu bywydau, oherwydd newidiadau i bensiynau.

 

3.3     Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd UCAC ac Unsain i ddarparu:

·         enghreifftiau o arfer da o ran cyngor gyrfa gan gyflogwyr;

·         eu barn ar effaith awtomeiddio ar rôl athrawon, gan gynnwys unrhyw werth a roddir yn y dyfodol ar agwedd ofalgar y rôl.

 

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Nodiadau trafodaethau grwpiau ffocws mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor nodiadau trafodaethau'r grwpiau ffocws.

 

4.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ymateb.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod am weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 3 Mai 2018

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(11.30 - 11.45)

6.

Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.