Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

(09:15 -10:15)

2.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1

Dr Peter Mackie, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Suzanne Fitzpatrick, Athro / Cyfarwyddwr y Sefydliad (ISPHERE), Prifysgol Heriot-Watt

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Dr Peter Mackie, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

·         Yr Athro Suzanne Fitzpatrick, Athro / Cyfarwyddwr y Sefydliad (ISPHERE), Prifysgol Heriot-Watt

 

·         2.2 Cytunodd Dr Peter Mackie i ddarparu nodyn ar:

 

·         enghreifftiau o arfer da o allgymorth gweithredol; ac

·         ar atebion arloesol a argymhellir ar gyfer awdurdodau lleol i oresgyn diffyg argaeledd tai yng nghyd-destun digartrefedd

 

(10:25-11:25)

3.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2

Jane Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a Chymunedau, Cyngor Caerdydd

Simon Inkson, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Powys

Julie Francis, Rheolwr y Gwasanaeth, Tai, Cyngor Wrecsam

Tracy Hague, Arweinydd Opsiynau Tai Cyfamser, Cyngor Wrecsam

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Jane Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Tai a Chymunedau, Cyngor Caerdydd
  • Simon Inkson, Pennaeth Tai, Cyngor Sir Powys
  • Julie Francis, Rheolwr Gwasanaeth, Tai, Cyngor Wrecsam
  • Tracy Hague, Arweinydd Opsiynau Tai Dros Dro, Cyngor Wrecsam

 

3.2 Gofynnodd y Cadeirydd am nodyn am y lefel o waith a wneir ar y cyd rhwng awdurdodau o ran gwasanaethau ailgysylltu, gan gynnwys y lefel o gymorth a ddarperir i unigolion.

 

 

 

(11.25 - 12.25)

4.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3

Antony Kendall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, The Wallich

Yvonne Connolly, Rheolwr Rhanbarthol Cymru a'r De Orllewin, Byddin yr Iachawdwriaeth

Richard Edwards, Prif Weithredwr, Canolfan Huggard

Frances Beecher, Prif Weithredwr, Llamau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Antony Kendall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, The Wallich

·         Yvonne Connolly, Rheolwr Rhanbarthol Cymru a'r De Orllewin, Byddin yr Iachawdwriaeth

·         Richard Edwards, Prif Weithredwr, Canolfan Huggard

·         Frances Beecher, Prif Weithredwr, Llamau

 

4.2 Cytunodd Llamau i ddarparu nodyn ar yr awdurdodau lleol sy'n darparu tocynnau cludiant i bobl sy'n cysgu ar y stryd wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau ailgysylltu.

 

4.3 Cytunodd Byddin yr Iachawdwriaeth i ddarparu gwybodaeth am eu gwaith ailgysylltu gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys hepgoriadau trwy wasanaethau rheng flaen.

 

(13.15 - 14.15)

5.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4

Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru

Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru

Jon Sparkes, Prif Weithredwr, Crisis

Beth Thomas, Rheolwr Gwerthiannau Rhanbarthol, Cymru a De Orllewin Lloegr, y Big Issue

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

·         Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru

·         Rebecca Jackson, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Shelter Cymru

·         Jon Sparkes, Prif Weithredwr, Crisis

·         Beth Thomas, Rheolwr Gwerthiannau Rhanbarthol, Cymru a De Orllewin Lloegr, y Big Issue

 

5.2 Cytunodd Shelter Cymru i ddarparu data ar awdurdodau lleol sy'n delio â'r rhai sy'n gadael y carchar mewn perthynas ag angen blaenoriaethol;

 

5.3 Cytunodd Cymorth Cymru i egluro'r cynnydd ymddangosiadol o 250% o ran pobl sy'n cysgu ar y stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, fel y cyfeiriwyd atynt yn eu papur tystiolaeth.

 

5.4 Gofynnodd y Pwyllgor am gopi o'r astudiaeth a gyfeiriwyd ato gan Crisis ar gost y sawl sy'n cysgu ar y stryd yn yr hirdymor i wasanaethau cyhoeddus.

(14.15 - 15.15)

6.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 5

Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jeremy Vaughan, Heddlu De Cymru

Prif Uwcharolygydd Stephen Jones, Heddlu De Cymru

Ian Barrow, Cyfarwyddwr yr NPS yng Nghymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru

Diana Binding, Uwch Reolwr Arweiniol ar Lety, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

Dusty Kennedy, Cyfarwyddwr, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jeremy Vaughan, Heddlu De Cymru

·         Prif Uwcharolygydd Stephen Jones, Heddlu De Cymru

·         Ian Barrow, Cyfarwyddwr yr NPS yng Nghymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru

·         Diana Binding, Uwch Reolwr Arweiniol ar Lety, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru

·         Dusty Kennedy, Cyfarwyddwr, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru

 

6.2 Cytunodd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru i ddarparu data ar y Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd ar gyfer Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn yr Ystâd Ddiogel, mewn perthynas â'r cyfnod rhybudd a roddir i awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth o ran pobl sy'n gadael y carchar.

 

6.3 Gofynnodd y Pwyllgor am ddata ar nifer yr arestiadau o ran pobl sy'n cysgu ar y stryd gan Heddlu De Cymru.

 

 

7.

Papur(au) i'w nodi

7.1

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn cysylltiad â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

7.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn cysylltiad â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

7.3

Nodiadau o ymweliadau’r Pwyllgor mewn cysylltiad â chysgu ar y stryd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3.a Nododd y Pwyllgor nodiadau ymweliadau Pwyllgor mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

 

7.4

Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn cysylltiad â Bil yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).

 

7.5

Llythyr gan Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip mewn cysylltiad â hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip mewn perthynas â Hawliau Dynol yng Nghymru.

 

7.6

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn cysylltiad â diogelwch tân yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â chysgu ar y stryd yng Nghymru.

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitemau 1, 2 a 3 yn y cyfarfod ar 14 Chwefror 2018

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(15.30 - 15.35)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Argyfwng (Tramgwyddau) - ystyried yr adroddiad drafft

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytuno arno: Bil Ymosodiadau ar Weithwyr Gwasanaethau Brys (Troseddau)

(15.15 - 15.30)

10.

Ymchwiliad i gysgu ar y stryd yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4, 5 a 6

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4. 5. a 6.