Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC a Bethan Jenkins AC.

 

 

(10:30-11:30)

2.

Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth 2

Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

·       Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

·       Rob Hay, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

2.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu'r canlynol:

·       Ffigurau cyffredinol cronfeydd wrth gefn pob awdurdod lleol ar gyfer 2017;

·       Dadansoddiad o'r cronfeydd wrth gefn y mae awdurdodau lleol wedi tynnu ohonynt dros y blynyddoedd diwethaf;

·       Manylion telerau'r grantiau penodol i ganolbwyntio ar ddigartrefedd yn y Prif Grŵp Gwariant cymunedau a phlant.

 

(11:30-12:30)

3.

Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: sesiwn dystiolaeth 3

Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

·       Julie James, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

·       Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio

·       Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

·       Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

·       John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

 

3.2       Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach am y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd i'w hariannu'n gyhoeddus yn 2018-19 pan fydd y wybodaeth ar gael.

 

3.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Tai ac Adfywio i ddarparu'r canlynol:

·       Canfyddiadau'r gwaith dadansoddi yn y dyfodol ar ddata a gesglir ar yr holl addasiadau cartref pan fydd y canfyddiadau ar gael;

·       Yr arian a ddyrennir ar gyfer gwaith gorfodi Rhentu Doeth Cymru ac, yn benodol, yr hyn y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer.

 

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd.

 

 

4.2

Ymateb gan Let Down in Wales ynghylch ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffioedd i denantiaid yn y sector rhentu preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Let Down in Wales i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffioedd i denantiaid yn y sector rhentu preifat.

 

4.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd Cydbwyllgor y DU ar Fenywod at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ynghylch hawliau dynol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Cydbwyllgor y DU ar Fenywod at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd ynghylch hawliau dynol yng Nghymru.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(12:30-12:45)

6.

Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19: trafod tystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.