Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Wilkinson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC a'r Athro Helen Stalford.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Sian Summers-Rees, Prif Swyddog, Dinas Noddfa y DU ac Iwerddon a Chadeirydd Asylum Justice

Yr Athro Helen Stalford, Prifysgol Lerpwl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Siân Summers-Rees, Prif Swyddog, Dinas Noddfa y DU ac Iwerddon a Chadeirydd Asylum Justice

 

2.2 Cytunodd Siân Summers-Rees i ddarparu enghreifftiau o dystiolaeth ynghylch ansawdd llety Lynx House.

 

(10.30 - 11.30)

3.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2

Hayley Richards, Swyddog Polisi ac Eiriolaeth, Oxfam

Galiya Idrisova

 

Neil McKittrick, Rheolwr Cymorth Gweithrediadau Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig

Elinor Harris, Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Olrhain Teulu a Chymorth i Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig.

 

Tracey Sherlock, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Salah Rasool, Gweithiwr Achos Cynghori, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Hayley Richards, Swyddog Polisi ac Eirioli, Oxfam

·         Neil McKittrick, Rheolwr Cymorth Gweithrediadau Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig

·         Elinor Harris, Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Olrhain Teulu a Chymorth i Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig

·         Tracey Sherlock, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

·         Salah Rasool, Gweithiwr Achos Cynghori, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

 

3.2 Cytunodd Hayley Richards, Oxfam, i ddarparu:

·         gwybodaeth gan gydweithwyr yn Oxfam y DU mewn perthynas â heriau cyfreithiol sy'n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches o ran tlodi;

·         gwybodaeth ynghylch yr arbedion gwariant cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth yr Alban yn sgil gweithredu'r model gwarcheidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd ar eu pen eu hunain.

 

3.3.      Cytunodd Neil McKittrick, Y Groes Goch Brydeinig, i ddarparu gwybodaeth ynghylch yr arbedion gwariant cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon yn sgil gweithredu'r model gwarcheidiaeth.

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth gan Adam Price AC at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Cymdeithas Tai Cantref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Adam Price AC at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Cymdeithas Tai Cantref.

 

4.2

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Cymdeithas Tai Cantref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Cymdeithas Tai Cantref.

 

4.12

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at y Cadeirydd ynghylch Cymdeithas Tai Cantref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at y Cadeirydd ynghylch Cymdeithas Tai Cantref.

 

4.4

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18.

 

4.5

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18.

 

4.6

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: nodyn ar yr ymweliad â Chanolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.a. Nododd y Pwyllgor y nodyn ar yr ymweliad â Chanolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe.

 

4.7

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: nodyn ar yr ymweliad ag Oasis a Chanolfan y Drindod yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7.a. Nododd y Pwyllgor y nodyn ar yr ymweliad ag Oasis a Chanolfan y Drindod yng Nghaerdydd.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(11.30 - 11.45)

6.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3

Cynrychiolydd Prosiect ‘Lloches yng Nghymru’ Oxfam Cymru

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd prosiect ‘Lloches yng Nghymru’ Oxfam Cymru.

 

(11.45 - 12.00)

7.

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(12.00 - 12.20)

8.

Trafod y flaenraglen waith

·         Cytuno cylch gorchwyl yr ymchwiliad i hawliau dynol

·         Blaenraglen waith

 

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried a thrafod materion yn ymwneud â'i flaenraglen waith y tu allan i'r Pwyllgor.