Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders AC. Dirprwyodd Paul Davies AC ar ran Janet Finch-Saunders AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

(9.15 – 10.45)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 (Prif Grŵp Gwariant (MEG) Llywodraeth Leol)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

·         Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol

·         Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol

 

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Estyn ynghylch gwaith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 - addysg ar berthnasau iach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Estyn.

 

3.2

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch gwaith craffu ôl-ddeddfu ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 – addysg ar berthnasau iach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(10.45-11.15)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn nodi ei sylwadau ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18, fel y mae'n ymwneud â'r portffolio llywodraeth leol.