Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.2.      Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.

 

(09.15 - 10.30)

2.

Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 1

Eleri Butler, Cymorth I Ferched Cymru

Frances Beecher, Cymru grŵp trais yn erbyn menywod cam gweithredu

Jackie Stamp, Llwybrau newydd

Mutale Merrill, Bawso

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Eleri Butler, Cymorth i Fenywod Cymru;

Frances Beecher, Grŵp Gweithredu Trais yn erbyn Menywod

Jackie Stamp, New Pathways 

Mutale Merrill, BAWSO

 

2.2 Cytunodd Frances Beecher i roi manylion i’r Pwyllgor am y ffordd y mae’r Grŵp Strategol ar Asesu Llesiant yng Ngwent yn edrych ar ddeddfwriaeth ac yn alinio gwasanaethau yn unol â hynny

 

2.3 Cytunodd Mutale Merrill i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor am sefyllfa BAWSO ynghylch datganoli rhagor o bwerau i Gymru mewn perthynas ag arian ar gyfer gwasanaethau cymorth.

 

(10.30 - 11.15)

3.

Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 2

 

Fflur Elin, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru

Claire O’Shea,Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru

Vivienne Laing, Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i blant (NSPCC)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Fflur Elin, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Claire O’Shea, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

Vivienne Laing – Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)

 

3.2 Cytunodd Vivienne Laing i ddarparu manylion i’r Pwyllgor am ddeunydd y prosiect ‘Lleisiau dros Dawelwch’ NSPCC/Bawso.

 

3.2 Cytunodd Vivienne Laing i ddarparu manylion i’r Pwyllgor am ddeunydd y prosiect ‘Lleisiau dros Dawelwch’ NSPCC/Bawso.

(11:30-12:30)

4.

Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 3

Sian Morris, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Joy Williams, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Siân Morris, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Joy Williams, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

4.2 Cytunodd Siân Morris a Joy Williams i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

  • manylion ynghylch a yw pob awdurdod lleol yng Nghymru yn datblygu strategaethau lleol drafft ar gyfer eu hardal eu hunain ar hyn o bryd;
  • manylion ar Fwrdd Grŵp Arweinyddiaeth VAWDA Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys ei gylch gorchwyl a manylion o beth, a sut, y mae’r Bwrdd wedi dysgu;
  • barn ar sut y bydd awdurdodau lleol yn adrodd ynghylch sut y maent yn mynd i’r afael â gofynion y Ddeddf ac, wedyn, pwy a fydd yn casglu data ar berfformiad awdurdodau lleol;
  • manylion a thystiolaeth ynghylch a yw’r canllawiau arfer da o ran cydberthnasau iach yn cyrraedd ysgolion unigol ledled Cymru;
  • manylion sut y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gweithio gydag awdurdodau lleol wrth ddatblygu strategaethau lleol;

manylion sut y mae awdurdodau lleol yn ceisio barn dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

(13.00 - 14.00)

5.

Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: sesiwn dystiolaeth 4

Lin Slater, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Chris Overs, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Wendy Sunderland-Evans, Abertawe Bro Morgannwg

Aideen Naughton, Lechyd Cyhoeddus Cymru

 

  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

  • Lin Slater, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Chris Overs, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Wendy Sunderland-Evans, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • Aideen Naughton, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

 

6.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch yr ymchwiliad ôl-ddeddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch yr Ymchwiliad ôl-ddeddfwriaethol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

 

6.3

Llythyr gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ar waith yn y dyfodol yn ymwneud ag ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ar waith yn y dyfodol sy’n ymwneud â mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Er mwyn trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth 1, 2, 3 a 4

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(14:00-14:20)

8.

Ymchwiliad ar ôl deddfu i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015: Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y dystiolaeth yn ystod cyfarfod y bore.