Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS a Mandy Jones AS.

 

1.2.      Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

 

2.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

2.1

Llythyr gan y Llywydd at holl Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd ynghylch y Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 – effaith ar Bwyllgorau’r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd at holl Gadeiryddion Pwyllgorau'r Senedd ynghylch y Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021 – effaith ar Bwyllgorau’r Senedd.

 

2.2

Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn (Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru - Adeiladau mwy diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn (Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru - Adeiladau mwy diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad).

 

2.3

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar effaith COVID-19 ar y sector gwirfoddol

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(13.30 - 14.00)

4.

Trafod Adroddiad Gwaddol Drafft y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad gwaddol drafft.

 

(14.00 - 14.45)

5.

Trafod ymateb y Pwyllgor i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor yr ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru