Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/10/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS

Nid oedd dim dirprwyon na datganiadau o fuddiant

(09.45)

2.

Papur(au) i'w nodi

2.1

Llythyr oddi wrth Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch: Llythyr Cylch Gwaith Trafnidiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

(09.45-10.45)

3.

COVID-19: Adferiad - Diweithdra ymhlith pobl ifanc

Dr Sioned Pearce, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Ewart Keep, yr Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen

Laura-Jane Rawlings, Prif Swyddog Gweithredol, Youth Employment UK

Cofnodion:

3.1 Atebodd Dr Sioned Pearce, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yr Athro Ewart Keep, Adran Addysg Prifysgol Rhydychen a Laura-Jane Rawlings, Prif Swyddog Gweithredol Youth Employment UK gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

(10.55-11.55)

4.

COVID-19: Adferiad i bawb

Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

Dr Alison Parken, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Ruth Coombs, Pennaeth Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Rhian Davies, Prif Weithredwr, Anabledd Cymru

Cofnodion:

4.1 Atebodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg, Dr Alison Parken, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Ruth Coombs, Pennaeth Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

(11.55-12.00)

5.

Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm. Roedd yn fodlon bod y Bil yn gwneud darpariaeth at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a bod angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29, ac nid oedd yn gweld dim rheswm dros wrthwynebu bod y Senedd yn cytuno i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Byddai adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm yn cael ei osod erbyn y terfyn amser, sef 5 Tachwedd.

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(12.00-12.10)

7.

Adroddiad drafft: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft

(12.10-12.20)

8.

Preifat

Ystyried tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

 

Cynlluniwr Gwaith Ymlaen

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith: Hydref 2020