Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/09/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

(09.45-10.45)

2.

Covid-19: Adfer - Sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau

Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Polisi, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru

Amy Bainton, Cynghorydd Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Polisi, Cangen Cymru o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain ac Amy Bainton, Cynghorydd Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Leighton Jenkins i ddarparu nodyn i'r pwyllgor ynghylch cymorth economaidd, diogelwch yn y gweithle a'r galluogwr economaidd.

(10.55-11.55)

3.

Covid-19: Adfer - Undebau Llafur

Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol, UNITE Cymru

Mike Payne, Uwch Drefnwr, Cymru a De Orllewin, Undeb GMB

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro, Cyngres yr Undebau Llafur Cymru

Cofnodion:

3.1 Atebodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Rhanbarthol, UNITE Cymru, Mike Payne, Uwch Drefnwr Cymru a De Orllewin, Undeb GMB a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cyngres Undebau Llafur Cymru gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

(11.55)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(11.55-12.15)

5.

Preifat

COVID-19: Ystyried tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn