Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

(13.30-15.00)

2.

COVID-19: Craffu ar waith Gweinidogion

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru

Simon Jones, Cyfarwyddwr ar gyfer Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Sgiliau Cyflogadwyedd, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor: Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru; Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth; Sioned Evans, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Economaidd; Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd; ac Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflogadwyedd a Sgiliau.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion pellach i'r Pwyllgor, yn unol â’r hyn a drafodwyd yn ystod y cyfarfod

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(15.00-15.30)

4.

Preifat

COVID-19: Ystyried tystiolaeth o gyfarfod heddiw

 

Blaen-gynllun gwaith Hydref 2020

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn, a thrafododd gynnwys y Flaenraglen Waith ar gyfer tymor yr hydref 2020.