Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Russell George AC, Joyce Watson AC a Vikki Howells AC.

2.2 Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon na datganiadau o fuddiannau.

3.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

(09.30-10.30)

4.

Datblygu Trafnidiaeth i Gymru yn y dyfodol: Prifysgol Glasgow

Yr Athro Iain Docherty, Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu (Rheoli), Prifysgol Glasgow

Cofnodion:

4.1 Atebodd yr Athro Iain Docherty gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor

(10.30-11.40)

5.

Datblygu Trafnidiaeth i Gymru yn y dyfodol: Cyrff Rhanbarthol

Roger Waters, Swyddog Arweiniol Trafnidiaeth, Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Ann Elias, Swyddog Trafnidiaeth Ranbarthol Canolbarth Cymru, Trefniadau Trafnidiaeth Ranbarthol Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd Roger Waters ac Iwan Prys Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 7 ac 8

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(11.50-11.55)

7.

Llythyr Drafft: Diweddariad ar y Bargeinion Dinesig

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

(11.55-12.25)

8.

Adroddiad Drafft: Gwefru cerbydau trydan yng Nghymru

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft