Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/06/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.

1.2 Roedd Bethan Sayed yn dirprwyo ar ran Adam Price AC

1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant

(09.15-10.00)

2.

Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Awtomeiddio ac Economi Cymru

Eluned Morgan AM, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SAUDGO, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Eluned Morgan AC a Dr Rachel Garside-Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o fanylion am y Datganiad Polisi Sgiliau, a gyhoeddwyd yn 2014

(10.00-10.45)

3.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - Awtomeiddio ac Economi Cymru

Ken Skates AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Mick McGuire, Cyfarwyddwr Busnesau ac Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

James Davies, Diwydiant Cymru, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ken Skates AC, Mick McGuire a James Davies gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i anfon papur at y Pwyllgor ar gyfleoedd strategaeth ddiwydiannol y DU

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â Chadeirydd dros dro Trafnidiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Deiseb P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

4.3

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ynglŷn â Dulliau Amgen o Gwblhau Prentisiaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

4.5

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch trefniadau ariannol masnachfraint y rheilffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

(11.00-12.00)

5.

Gwrandawiad cyn penodi - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

John Lloyd Jones, Preferred candidate for the Chair of the National Infrastructure Commission for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd John Lloyd Jones gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(12.00-12.15)

7.

Trafodaeth ar Ddiwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET): Cynigion craffu cyn y broses ddeddfu

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol