Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant. |
||
Papur(au) i'w nodi |
||
Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn dilyn sesiwn graffu'r Pwyllgor ar 17 Ionawr Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.1
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth |
||
Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru at y Llywydd ynglŷn â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Ofcom Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2.1
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth |
||
Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch cyhoeddiad Llywodraeth Cymru 'Y polisi masnach: materion Cymru' Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.3.1
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth |
||
Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?' Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.4.1
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 ac 5 Cofnodion: 3.1
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig |
||
(09.45-10.00) |
Trafod llythyr drafft at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Pwerau Newydd: Posibiliadau Newydd Cofnodion: 4.1
Nododd y Pwyllgor y llythyr |
|
(10.00-10.15) |
Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Masnach Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1
Derbyniodd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Masnach. |
|
(10.30-11.30) |
Cadeiryddion byrddau'r Ardaloedd Menter (Panel 2) – Ardaloedd Menter David Jones, Cadeirydd, Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy Mark Langshaw, Cadeirydd, Ardal Fenter Glyn Ebwy Cofnodion: 6.1
Atebodd David Jones a Mark Langshaw gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor 6.2
Cytunodd Mark Langshaw i roi rhagor o fanylion am amrywiaeth, ac yn benodol
ffigurau ynghylch prentisiaid mewn perthynas â'r Ardaloedd Menter |
|
(11.30-12.30) |
Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Ardaloedd Menter Ken Skates AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth Mick McGuire, Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau Duncan Hamer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Entrepreneuriaeth a
Chyflenwi Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1
Atebodd Ken Skates AC, Mick McGuire a Duncan Hamer gwestiynau gan aelodau'r
Pwyllgor. 7.2
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi rhagor o fanylion ynghylch arolwg a
gynhaliwyd am barthau menter, a dywedodd y byddai'n rhannu'r ymatebion manwl â
ni 7.3
Cytunodd Mick McGuire i roi rhagor o fanylion am Lwfansau Cyfalaf Uwch 7.4 Bydd
Duncan Hamer yn anfon dadansoddiad at y Pwyllgor o wariant pob Ardal Fenter,
llai y gwariant seilwaith, i weld faint sy'n cael ei wario ar bob Ardal Fenter |