Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

View the meeting transcript (PDF 665KB) View as HTML (432KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

(09.15-10.15)

2.

Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth - craffu cyffredinol

Julie James AM, Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Simon Jones, Cyfarwyddwr ar gyfer Seilwaith yr Economi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ynghylch nifer y bobl sydd wedi manteisio ar y cyfle i gael gwasanaeth band eang cyflym iawn ers newid y cynllun, gan gynnwys ffigurau ynghylch cyfanswm y ceisiadau a gafwyd a'r gyfradd llwyddiant (cyn ac ar ôl y newidiadau).

(10.30-11.30)

3.

Panel sector masnach - Gwerthu Cymru i'r Byd

Elgan Morgan, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Siambr Fasnach De Cymru

Yr Athro Terry Stevens, Stevens & Associates

Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

3.2 Datganodd Ben Cottam ei fod yn aelod o fwrdd strategol Busnes Cymru.

3.3 Datganodd yr Athro Terry Stevens bod Mari Stevens, Cyfarwyddwr Marchnata - Twristiaeth a Busnes Llywodraeth Cymru, yn ferch iddo.

(11.30-12.30)

4.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith - craffu cyffredinol

Ken Skates AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Simon Jones, Director, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh

Mick McGuire, Cyfarwyddwr Sectorau a Busnes

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SAUDGO

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

4.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu'r eitemau a ganlyn:

  • gwybodaeth am faint o swyddi a gafodd eu a) creu, b) diogelu c) cynorthwyo mewn perthynas â phob un o'r parthau menter (ar wahân) ers i'r parthau hynny gael eu creu;
  • ffigurau ynghylch lefel y buddsoddiad cyhoeddus a gafwyd ar gyfer pob un o'r parthau menter, a hynny fesul blwyddyn; a
  • chopi o'r cytundeb a wnaed ym mis Awst 2014 rhwng Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth.