Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

View the meeting transcript (PDF 1MB) View as HTML (232KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

(09:30 - 10:30)

2.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Ken Skates AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Simon Jones, Cyfarwyddwr Trafnidiaeth a Seilwaith TGCh, Llywodraeth Cymru

Rhodri Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ddarparu (cyn gynted ag y bydd yn hysbys):       

 

·         Gwybodaeth gan Lywodraeth y DU yn egluro’r rhesymau am newid Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU o fod yn sefydliad anstatudol i fod yn sefydliad statudol.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith hefyd i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad a gwerthusiad o’r gwahanol fodelau sy’n cael eu hystyried ynglŷn â’r rôl y gallai’r Comisiwn ei chwarae o ran cyllido buddsoddi mewn seilwaith.

(10:40 - 11:40)

3.

Awdurdodau Lleol - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru (I'w gadarnhau)

Cofnodion:

3.1 Atebodd Darren Mepham o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nodwyd y dystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol gan y Pwyllgor.

4.2

Llythyr at y Cadeirydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ynglŷn â'r diwydiant dur

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

4.3

Llythyr gan y Cadeirydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch gwasanaethau rheilffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 15 Rhagfyr 2016.

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(11:40 - 11:55)

6.

Trafod y dystiolaeth seilwaith ryngwladol - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth seilwaith ryngwladol.

(11:55 - 12:10)

7.

Trafod y themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg - Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg.

(12:10 - 12:25)

8.

Papur cwmpasu - Ymchwiliad i ddarparu'r Metro a'r masnachfraint rheilffyrdd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu.