Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/01/2021 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS a Suzy Davies AS 1.2 Dirprwyodd
Jack Sargeant AS ar ran Joyce Watson AS Ni chafwyd datganiadau o fuddiant |
|
(09.45-10.45) |
Gweithio o bell: Y Goblygiadau i Gymru - y gweithlu a chydraddoldeb Shavanah Taj,
Ysgrifennydd Cyffredinol Dros Dro, Cyngres yr Undebau Llafur Cymru Cerys Furlong,
Prif Weithredwr, Chwarae Teg Yr Athro Abigail
Marks, Prifysgol Newcastle Cofnodion: 2.1 Atebodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol
Cyngres Undebau Llafur Cymru, Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg a'r
Athro Abigail Marks, Prifysgol Newcastle gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor 2.2 Cytunodd Cerys Furlong i ddarparu rhagor o fanylion am y derminoleg a'r gwahaniaeth rhwng
gweithio’n hyblyg, gweithio’n ystwyth, gweithio o bell a gweithio gwasgaredig. |
|
(10.55-11.25) |
Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru - tystiolaeth ryngwladol Antti Närhinen, Cynghorydd
Gweinidogol, y Weinyddiaeth Materion Economaidd a Chyflogaeth, Llywodraeth y
Ffindir Marianne
Keyriläinen, Cynghorydd Gweinidogol, y Weinyddiaeth Materion Economaidd a
Chyflogaeth, Llywodraeth y Ffindir Cofnodion: 3.1 Atebodd Antti Närhinen, Cynghorydd Gweinidogol,
Gweinyddiaeth Materion Economaidd a Chyflogaeth Llywodraeth y Ffindir a
Marianne Keyriläinen, Cynghorydd Gweinidogol, Gweinyddiaeth Materion Economaidd
a Chyflogaeth Llywodraeth y Ffindir gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. |
|
(11.30-12.10) |
Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru - tystiolaeth ryngwladol Yr Athro
Kirsimarja Blomqvist, Prifysgol LUT, Y Ffindir Dr Noortje M
Wiezer, Sefydliad Ymchwil Wyddonol Gymhwysol yr Iseldiroedd Cofnodion: 4.1 Atebodd yr Athro Kirsimarja Blomqvist, Prifysgol LUT,
y Ffindir a Dr Noortje M Wiezer, Sefydliad Ymchwil Wyddonol Gymhwysol yr
Iseldiroedd gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 4.2 Cytunodd Dr Noortje M Wiezer i ddarparu rhagor o
fanylion am effeithiau gwahaniaethol ar wahanol grwpiau o bobl. |
|
(12.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig |
|
(12.10-12.20) |
Preifat Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn. |