Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/09/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.45) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd
ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant. |
|
(09.45) |
Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol parthed: y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr. |
|
(09.45-10.55) |
Covid-19: Adfer Trafnidiaeth - Grwpiau Eiriolaeth a Buddiannau Teithwyr Christine Boston,
Cyfarwyddwr
Cymru, Transform Cymru Ryland Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sustrans
Cymru Norman Baker, Cyngorydd i’r Prif Swyddog
Gweithredol, yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well David Beer, Uwch-reolwr Cymru, Transport Focus Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Atebodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Cymru, Transform
Cymru, Ryland Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Sustrans Cymru, Norman
Baker, Cynghorydd y Prif Swyddog Gweithredol, Yr Ymgyrch Dros Drafnidiaeth Well
a David Beer, Uwch Reolwr Cymru, Ffocws ar Drafnidiaeth, gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd Norman Baker i
anfon dogfen Covid-19 Recovery Yr Ymgyrch Dros Drafnidiaeth at y Pwyllgor. |
|
(11.05-11.55) |
Covid-19: Adfer Trafnidiaeth - Safbwyntiau Academaidd a Diwydiannol Yr Athro Glenn
Lyons, Athro Symudedd y Dyfodol, Prifysgol Gorllewin Lloegr Nick Richardson, Cyfarwyddwr Technegol
(Trafnidiaeth), Mott Macdonald a Chadeirydd Grŵp Polisi Bysiau a Choetsys y Sefydliad Siartredig
Logisteg a Thrafnidiaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd Yr Athro Glenn Lyons, Athro Symudedd y
Dyfodol – Prifysgol Gorllewin Lloegr a Nick Richardson, Cyfarwyddwr Technegol
(Trafnidiaeth) - Mott Macdonald a Chadeirydd Grŵp Polisi Bysiau a Choetsys y Sefydliad Siartredig
Logisteg a Thrafnidiaeth, gwestiynau gan Aelodau’r
Pwyllgor. |
|
(11.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y
cynnig |
|
(11.55-12.15) |
Preifat Covid-19: Ystyried
tystiolaeth yn dilyn eitem 3 a 4 Cofnodion: 6.1 Bu’r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn
ystod y sesiwn. |