Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/09/2020 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS

Nid oedd dim dirprwyon na datganiadau o fuddiant

(09.45)

2.

Papur(au) i'w nodi

2.1

Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru parthed: Tynnu'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn ôl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

2.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid parthed: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

2.3

Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru parthed: Tystiolaeth a glywyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 18 Mehefin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

2.4

Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru parthed: Gweithredu dilynol i gyfarfod y Pwyllgor ar 11 Mai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

2.5

Llythyr gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru parthed: Rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 16 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(09.45-10.45)

3.

Covid-19: Adferiad - Academyddion

Yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol, Prifysgol De Cymru

Yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ag Ymchwil ac Effaith Ymchwil, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Gillian Bristow, Athro mewn Daearyddiaeth Economaidd, Prifysgol Caerdydd

Cofnodion:

3.1 Atebodd yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol, Prifysgol De Cymru, yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ag Ymchwil ac Effaith Ymchwil, Prifysgol Caerdydd a'r Athro Gillian Bristow, Athro mewn Daearyddiaeth Economaidd, Prifysgol Caerdydd gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

(10.55-11.55)

4.

Covid19: Adferiad - Melinau Trafod

Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan

David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith

 

Cofnodion:

4.1 Atebodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith a Helen Cunningham, Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

(11.55)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

(11.55-12.15)

6.

Preifat

COVID-19: Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

 

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.