Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriad gan Hefin David AC

Nid oedd dirprwyon ac ni ddatganwyd buddiannau

(9.30-10.15)

2.

Craffu ar y gyllideb gyda Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Eluned Morgan ac Andrew Clark gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

2.2 Cytunodd Andrew Clark i roi rhagor o fanylion am gynllun Cymunedau am Waith

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5

Eitem 4 - (vi) lle mae’r pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhellion adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson

 

Eitem 5 - (ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod

(10.25-10.30)

4.

Papur Tystiolaeth y Gyllideb Ddrafft gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth

(10.30-11.15)

5.

Briff ar waith canol trefi'r Ffederasiwn Busnesau Bach/Sefydliad Materion Cymreig

Joshua Miles, Rheolwr Polisi, FSB Cymru

Peter Williams, Cyfarwyddwr, The Means

Auriol Miller, Cyfarwyddwr, IWA

Elinor Shepley, Swyddog Prosiect Deall Lleoedd yng Nghymru, IWA

 

Cofnodion:

5.1 Atebodd Joshua Miles, Peter Williams, Auriol Miller ac Elinor Shepley gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

(11.15-12.30)

6.

Craffu ar y gyllideb gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd

Marcella Maxwell, Pennaeth Cynllun Gweithredu ar yr Economi

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd yr eitem ei chanslo