Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC.

1.2 Ni chafwyd unrhyw ddirprwyon na datganiadau o fuddiant.

(09.15-10.45)

2.

Egluro’r cefndir - Awtomeiddio ac Economi Cymru

Yr Athro Calvin Jones, Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Cymru

Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CBI Cymru

Matt Fenech, Future Advocacy (Drwy fideogynhadledd)

Catherine Phillips, Uwch-gynghorwr corfforaethol, Busnes yn y Gymuned Cymru (Drwy fideogynhadledd)

 

 

Cofnodion:

2.1 Atebodd yr Athro Calvin Jones, Leighton Jenkins, Matt Fenech a Catherine Phillips gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Leighton Jenkins i ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â chwestiwn a godwyd gan Mark Isherwood AC ynghylch y ffaith y gallai pobl anabl gael eu heffeithio'n andwyol gan newidiadau ym maes deallusrwydd artiffisial

(11.00-12.00)

3.

Amaethyddiaeth fanwl - Awtomeiddio ac Economi Cymru

Yr Athro Simon Blackmore, Pennaeth roboteg amaethyddol, Prifysgol Harper Adams

Chris Hoskins, Rheolwr Masnachol SoilQuest, Agrii

Jason Llewellin, J.Llewellin & Co

Cofnodion:

3.1 Atebodd yr Athro Simon Blackmore, Chris Hoskins a Jason Llewellin gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

4.

Papur(au) i'w nodi

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol ynghylch Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

4.2

Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd ynghylch yr ymchwiliad i Gyflwr y Ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

4.3

Llythyr gan y Cadeirydd at Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch yr ymchwiliad i Gyflwr y Ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(12.00-12.15)

6.

Trafod yr adroddiad drafft - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft

(12.15-12.20)

7.

Adborth ar ymweliadau’r Pwyllgor ag Amazon a Phrifysgol Abertawe - Awtomeiddio ac Economi Cymru

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymweliad diweddar ag Amazon a Phrifysgol Abertawe

(12.20-12.25)

8.

Trafodaeth o'r broses gwrandawiadau cyn penodi - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y broses gwrandawiadau cyn penodi - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

(12.25-12.30)

9.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cymunedol

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gymunedol