Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/03/2018 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1  Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC a chan Vikki Howells AC.

1.2 Nid oedd unrhyw ddirprwyon

2.

Papur(au) i'w nodi

2.1

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Borthladd Aberdaugleddau ar yr ymchwiliad i Ardaloedd Menter

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 ac 5

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(09.30-10.00)

4.

Trafod yr adroddiad drafft - Ardaloedd Menter

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

(10.00-10.10)

5.

Papur cwmpasu - Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu

(10.10-11.40)

6.

Llywodraeth Leol - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Craig Mitchell, Pennaeth Cefnogi Gwastraff, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Matthew Price, Arweinydd Adran (Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth), Gweithrediadau’r Ddinas, Cyngor Caerdydd

Gail Bodley-Scott, Arweinydd Adran (Gweledigaeth, Polisi a Strategaeth Trafnidiaeth), Gweithrediadau’r Ddinas, Cyngor Caerdydd

Vincent Goodwin, Swyddog teithio, Cyngor Sir Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

6.2 Cytunodd Craig Mitchell i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

  • Y cyfyngiadau o ran cyflwyno Teithio Llesol trwy'r Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif
  • Faint o seilwaith teithio llesol sydd wedi cael ei adeiladu yng Nghymru ers y Ddeddf, a sut mae cyfraddau adeiladu yn cymharu â'r cyfnod cyn y Ddeddf
  • Ymgynghori â grwpiau anabledd ar draws awdurdodau lleol
  • Hyrwyddo Teithio Llesol ar draws awdurdodau lleol

(11.50-12.50)

7.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 – Craffu ar ôl ddeddfu

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Rhodri Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Natalie Grohmann, Arweinydd Tîm Polisi Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor

7.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi nodyn briffio cynhwysfawr i'r Pwyllgor ynglŷn â pharcio ar y palmant