Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/06/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal gan yr Aelodau i gofio Mohammad Asghar AS.

 

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.  

1.2    Cadarnhaodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. 

1.3   Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai David Melding AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 

1.4  Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant. 

 

 

(13:30-14:30)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith argyfwng COVID 19 ar y diwydiannau creadigol

Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd

Gareth Williams, Cadeirydd, TAC

Pauline Burt, Cyfarwyddwr, Ffilm Cymru

Mark Davyd, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn ynghylch Covid-19 a'i effaith ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru:

 

Sarah Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd

Gareth Williams, Cadeirydd, TAC

Pauline Burt, Cyfarwyddwr, Ffilm Cymru

Mark Davyd, Prif Swyddog Gweithredol, Yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth

 

 

(14:45- 15:45)

3.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith argyfwng COVID 19 ar ddarlledu yn y sector cyhoeddus

Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru

Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru Wales

Owen Evans, Prif Weithredwr, S4C

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am effaith Covid-19 ar ddarlledu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru:

 

Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru

Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru

Owen Evans, Prif Weithredwr, S4C

 

 

 

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Gohebiaeth â Bauer Media ynghylch gorsaf radio Sain Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd yr Aelodau ohebiaeth â Bauer Media ynghylch gorsaf radio Sain Abertawe

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(15:45 -16:15)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiad byr ar effaith argyfwng COVID 19 ar y diwydiannau creadigol