Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Fideogynhadledd drwy Zoom
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/05/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod rhithwir cyntaf y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu. 1.2
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19,
dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y
Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 1.3
Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor
wedi cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, y byddai David Melding AS yn dod
yn Gadeirydd Dros Dro pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm. 1.4
Ni chafwyd ymddiheuriadau na
datganiadau o fuddiant. |
||
(10:00- 11:00) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Lord Dafydd
Elis-Thomas – Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Jason Thomas - Cyfarwyddwr
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Holodd yr Aelodau y Dirprwy Weinidog a'i swyddogion
am Covid-19 a'i effaith ar feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, ac ymateb ei
adran hyd yma i'r pandemig. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau a
ganlyn: |
||
Gohebiaeth â'r BBC Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at Gyfarwyddwr
Cenhedloedd a Rhanbarthau’r BBC i egluro nad darlledwr lleol yw BBC Cymru. |
||
Gohebiaeth gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am y
materion a godwyd yn y llythyr gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru. |
||
Gohebiaeth â Media Wales Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru am y
materion a godwyd yn y llythyr gan Media Wales. |
||
Brîff gan BBC Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papur. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. |
||
(11:00-11:05) |
Ymchwiliad i'r achosion o COVID-19 ac effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a chwaraeon: cytuno ar y cylch gorchwyl Cofnodion: 5.1 Ni chyrhaeddwyd yr eitem hon. Cytunodd yr Aelodau ar
y cylch gorchwyl yn electronig. |