Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Amseriad disgwyliedig: Committee meeting via Zoom
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/05/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Hoffwn groesawu’r
Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu. 1.2 Yn unol â Rheol
Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd
o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. 1.3 Dywedodd y
Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw
reswm, y byddai David Melding AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog
17.22. 1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o
fuddiant. |
|
(09:15-10:15) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru Nick Capaldi,
Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Holodd yr Aelodau Nick Capaldi, Prif
Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch COVID-19 a'i effaith ar y rhai
sy'n gweithio yn y Celfyddydau yng Nghymru. |
|
(10:15) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau a ganlyn: |
|
Llythyr gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru yn
cadarnhau y bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch y
materion a godwyd yn eu llythyr. |
||
Gohebiaeth â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth. |
||
Briff gan Gyngor Celfyddydau Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau y briff. |
||
(10:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
|
(10:15-10:45) |
COVID-19: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. Cytunodd yr Aelodau
i gyhoeddi adroddiad byr ar effaith yr achosion o COVID-19 ar sector y
celfyddydau gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. |