Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Martha Howells 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Sayed AC, ac, fel y cytunwyd ar 8 Mai 2019, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd David Melding AC yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.3  Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC hefyd.

1.4 Fe wnaeth Rhianon Passmore AC ddatgan ei bod wedi gweithio gyda ProMo-Cymru yn y gorffennol.

(09.30-10.30)

2.

Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: cerddoriaeth clasurol

Leonora Thomson, Rheolwr Gyfarwyddwr, Opera Cenedlaethol Cymru

Michael Garvey, Cyfarwyddwr, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

(10.40-11.20)

3.

Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: ProMo-Cymru

Arielle Tye, Rheolwr Datblygu, ProMo-Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

(11.20)

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Gohebiaeth â Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a’r Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau i drafod y papur hwn yn ystod rhan breifat y cyfarfod.

4.2

Gohebiaeth â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch gofynion Ofcom

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Cytunodd yr Aelodau i drafod y papur hwn yn ystod rhan breifat y cyfarfod.

4.3

Gohebiaeth â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch proses recriwtio Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Cytunodd yr Aelodau i drafod y papur hwn yn ystod rhan breifat y cyfarfod.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.20-12.00)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.