Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martha Howells
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/04/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC a Vikki
Howells AC. 1.3 Datganodd Rhianon Passmore AC fod ei mab yn cymryd
rhan yn yr Urdd. |
||
(09.30 - 10.40) |
Minnau hefyd! - ymchwiliad i rôl celfyddydau a diwylliant wrth fynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: Plant a phobl ifanc Siân
Lewis, Prif Weithredwr, yr Urdd Catrin
James, Swyddog Cenedlaethol Polisi a Phrosiectau, yr Urdd Kathryn
Williams, Cyfarwyddwr, Rubicon Dance Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Dangoswyd fideo gan y ddau sefydliad i’r Aelodau. 2.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor. 2.3 Cytunodd cynrychiolwyr yr Urdd i ddarparu gwybodaeth
ychwanegol i’r Pwyllgor am ei dull strategol ynghylch rôl y celfyddydau a
diwylliant wrth fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i drafod y papur hwn yn
ystod y rhan breifat o’r cyfarfod heddiw. |
||
Gohebiaeth gan y BBC ynghylch cynrychiolaeth o Gymru Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(10.40 - 12.30) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
Cefnogi a hybu'r Gymraeg: papur briffio cyfreithiol ac ystyriaeth o'r materion allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau’r papur briffio cyfreithiol a’r
ystyriaeth o’r materion allweddol. |
||
Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru: Trafod yr adroddiad draftt Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Cytunodd yr Aelodau i rannu eu safbwyntiau â’r tîm
clercio cyn trafod yr adroddiad eto yn y cyfarfod cyntaf yn dilyn toriad y
Pasg. |