Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2021 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AS. Roedd Mike
Hedges yn bresennol fel dirprwy. Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad o fuddiant gan fod ei
ferch yn ystyried gyrfa ym maes addysg Gymraeg. |
|
(09.30-11.00) |
Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan: Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r
Gymraeg Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg Jeremy Evas, Pennaeth Prosiect 2050 |
|
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: Nododd yr Aelodau y papurau a chytunwyd i ysgrifennu at
Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch gwaith
ymgysylltu â rhanddeiliaid a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad ar Gerddoriaeth
Fyw. |
||
Ymateb i’r adroddiad ar yr ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw gan Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd. Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru am y Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) drafft Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(11:00-11:15) |
Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.15-11.45) |
Ymchwiliad i ddatganoli darlledu: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Gwnaed
diwygiadau a chytunwyd y byddai'r fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad drafft yn
cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf. |