Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/11/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau pe bai Helen Mary Jones yn colli cysylltiad am unrhyw reswm yn ystod y cyfarfod, y byddai David Melding yn dod yn Gadeirydd dros dro nes bod Helen Mary Jones yn gallu ailymuno â'r cyfarfod.

 

(09.30-10.15)

2.

Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Pedr ap Llywd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

David Michael, Dirprwy Brif Weithredwr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau ganfyddiadau'r Adolygiad wedi'i Deilwra gyda'r Llyfrgellydd Cenedlaethol.

 

(10.30-11.15)

3.

Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru

Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru

 

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau’r Adolygiad wedi'i Deilwra gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

(11.30-12.30)

4.

Cymorth ar gyfer y cyfyngau newyddion

Rachel Howells

Emma Meese, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Caerdydd

Karen Wahl-Jorgensen, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Caerdydd

Ifan Morgan Jones, Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor

Nick Powell, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr aelodau gyflwyniadau gan y tystion a thrafod cefnogaeth ar gyfer y cyfryngau newyddion.

 

5.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau

 

5.1

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad byr ar effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol

Dogfennau ategol:

5.2

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad byr ar Effaith COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol

Dogfennau ategol:

5.3

Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ar ddysgu cerddoriaeth

Dogfennau ategol:

5.4

Eitem 5.4 Llythyr gan yr FDA ynghylch cyllid ar gyfer Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i’r cynnig.

 

(12.30-12.40)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at:

·         y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth gyda chrynodeb o'r materion sy'n wynebu'r cyfryngau newyddion, ac i ofyn am ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad wedi'i Deilwra o Lyfrgell Genedlaethol Cymru;

·         y Gweinidog Addysg i ofyn am y defnydd o archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Cwricwlwm newydd, ac

·         uned Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, i ofyn am fanylion pellach am y gweithdrefnau o ran penodiadau cyhoeddus.