Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/06/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.  

1.2     Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. 

1.3     Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai David Melding AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 

1.4     Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(13:30-14:30)

2.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar Chwaraeon, Panel Un

Brian Davies, Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru

Cyng Huw Thomas, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr

Dr Kelly Mackintosh, Cyfarwyddwr Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, Prifysgol Abertawe

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn ynghylch Covid-19 a'i effaith ar chwaraeon yng Nghymru:

          Brian Davies, Prif Weithredwr, Chwaraeon Cymru

Y Cynghorydd Huw Thomas, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddiwylliant, Twristiaeth a Digwyddiadau Mawr

Dr Kelly Mackintosh, Cyfarwyddwr Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, Prifysgol Abertawe

 

(14:45-15:45)

3.

COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar Chwaraeon, Panel Dau

Jonathan Ford, Prif Weithredwr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Gareth Davies, Cadeirydd, Undeb Rygbi Cymru

Marcus Kingwell, Prif Swyddog Gweithredol, EMD UK: Y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer ymarfer corff grŵp

 

 

Cofnodion:

3.1     Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am effaith Covid-19 ar chwaraeon yng Nghymru:

 

Jonathan Ford, Prif Weithredwr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Gareth Davies, Cadeirydd, Undeb Rygbi Cymru

Marcus Kingwell, Prif Swyddog Gweithredol, EMD UK: Y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer ymarfer corff grŵp

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1    Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(15:45 - 16:15)

5.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

Yn ystod yr ôl-drafodaeth breifat cytunodd yr Aelodau ar:

 

·         ysgrifennu adroddiad byr ar effaith COVID-19 ar chwaraeon;

·         ysgrifennu at Bauer Media ynghylch yr ail-frandio arfaethedig o Orsaf Radio Sain Abertawe;

·         ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2020-21; a

·         gofyn am Ddadl yn y Cyfarfod Llawn i drafod yr adroddiad ar 'Effaith argyfwng COVID-19 ar sector y celfyddydau' gan y Pwyllgor Busnes.