Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/11/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd
a Materion Gwledig. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(13.45-14.30) |
Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: Sesiwn dystiolaeth 1 - Y sector pysgodfeydd Jim Evans, Cadeirydd - Cymdeithas Pysgotwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru. |
|
(14.35-15.35) |
Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: sesiwn dystiolaeth 2 - Y sector amaethyddol Dr Nick Fenwick, Pennaeth Polisi - Undeb Amaethwyr Cymru Huw Thomas, Cynghorwr Gwleidyddol - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol Amaethwyr
Cymru. |
|
(15.40-16.40) |
Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd: sesiwn dystiolaeth 3 - Y sector amgylcheddol Jemma Beere, Rheolwr Polisi ac Ymchwil – Cadwch Gymru’n Daclus Michele Hunt, Pennaeth
Datblygu Cyllid – Y
Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru Anne Meikle, Pennaeth – Cronfa Natur Fyd-eang (WWF) Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Cadwch Cymru’n Daclus, Cronfa Natur Fyd-eang (WWF) Cymru,
ac Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru. |
|
(16.40) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU Dogfennau ategol: |
||
Ymateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i'r llythyr gan y Cadeirydd mewn perthynas â'r Fframwaith Sylweddau Peryglus Drafft. Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Dogfennau ategol: |
||
(16.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Covid-19 a threfniadau pontio'r Undeb Ewropeaidd - Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2, 3 and 4. |
||
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar ymateb Llywodraeth Cymru i lifogydd Chwefror 2020 yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno. |