Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/11/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AS

 

 

(13.45-14.30)

2.

Sesiwn ragarweiniol gan Rewilding Britain

Yr Athro Alastair Driver, Cyfarwyddwr – Rewilding Britain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Prof Driver, Rewilding Britain am fioamrywiaeth ac ailwylltio.

2.2 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a thrafodwyd materion allweddol a nodwyd yn y briff.

(14.35-15.35)

3.

Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Sesiwn dystiolaeth 1 - Sector amgylcheddol

Hilary Kehoe, Cadeirydd Cymru – Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur

Clive Faulkner, Prif Weithredwr – Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn

Jerry Langford, Arweinydd Polisi – Coed Cadw

Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru

Siân Stacey, Swyddog Ddatblygu’r Prosiect - O’r Mynydd i’r Môr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Coed Cadw, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru, ac O’r Mynydd i’r Môr.

 

(15.40-16.10)

4.

Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Sesiwn dystiolaeth 2 - Pwyllgor COPA (Cymunedau Oll Pumlumon a'r Ardal)

Y Gynghorydd Elwyn Vaughan – Pwyllgor COPA (Cymunedau Oll Pumlumon a'r Ardal)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bwyllgor COPA (Cymunedau Oll Pumlumon a'r Ardal).

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papur ei nodi.

5.1

Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Papur tystiolaeth gan Undeb Amaethwyr Cymru

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Bioamrywiaeth ac Ailwylltio: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4.

8.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru: Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar ychydig o newidiadau, cytunodd arno.