Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/11/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(13.45-14.45)

2.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft Cymru - sesiwn dystiolaeth: Cynllunio

Dr Roisin Willmott OBE, Cyfarwyddydd Cymru a Gogledd Iwerddon – Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru

Dr Neil Harris, Uwch-Ddarlithydd, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio – Prifysgol Caerdydd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Roisin Willmott, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, a Dr Neil Harris, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.

 

(14.55-15.25)

3.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft Cymru - sesiwn dystiolaeth: y Grid Cenedlaethol

Hêdd Roberts, Pennaeth Datrysiadau Cwsmeriaid, Trawsyriadau Trydan – y Grid Cenedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hêdd Roberts, y Grid Cenedlaethol.

.

(15.30-16.30)

4.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft Cymru - sesiwn dystiolaeth: Y Sector Ynni Adnewyddadwy

Eleri Davies, Pennaeth Consents UK, Ynni Gwynt ar y Tir - RWE Renewables

Rhys Wyn Jones, Cyfarwyddwr - Renewable UK Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Eleri Davies, RWE Renewables a Rhys Wyn Jones, Renewable UK Cymru

 

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

 

5.1

Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - dilyniant i sesiwn graffu 17 Medi 2020

Dogfennau ategol:

5.2

Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Cadeirydd: Fframweithiau Cyffredin - Sylweddau Peryglus (Cynllunio)

Dogfennau ategol:

5.3

Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Cynllun Masnachu Allyriadau y DU

Dogfennau ategol:

5.4

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor dros Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Cynulliad Gogledd Iwerddon: Fframweithiau Cyffredin - Cynllun Masnachu Allyriadau y DU

Dogfennau ategol:

5.5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Fframweithiau Cyffredin - Ailddosbarthu

Dogfennau ategol:

5.6

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

5.7

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes - Craffu ar reoliadau Covid-19

Dogfennau ategol:

5.8

Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Rheoliadau Amaethyddiaeth (Cymalau Enghreifftiol ar gyfer Cyfarpar Sefydlog) (Cymru) 2019 yn dilyn gohebiaeth gan Gymdeithas y Ffermwyr Tenant (TFA)

Dogfennau ategol:

5.9

Gohebiaeth gan Gadeirydd Y Pwyllgor Deisebau - Ansawdd aer

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1Derbyniwyd y cynnig.

.

7.

Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4

Graeme Purves, Cynghorydd Arbenigol i’r Pwyllgor

 

 

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4.