Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/10/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(13.45-14.45)

2.

Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Sesiwn dystiolaeth 1 - Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd

Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Deben, Cadeirydd – Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd Deben, Cadeirydd, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd.

(14.55-15.40)

3.

Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Sesiwn dystiolaeth 2 - Zero Carbon

Hannah Dillon, Pennaeth Ymgyrch – Zero Carbon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hannah Dillon, Pennaeth Ymgyrch, Zero Carbon.

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.2 Cytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn y llythyr o dan eitem 4.7

 

4.1

Ymateb Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i lythyr y Cadeirydd - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU

Dogfennau ategol:

4.2

Cyflwyniad ysgrifenedig gan yr Ymddiriedolaethau Natur Cymru - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU

Dogfennau ategol:

4.3

Cyflwyniad ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru - Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Tlodi Tanwydd

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

4.7

Gohebiaeth rhwng Cymdeithas y Ffermwyr Tenant a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

4.8

Gohebiaeth at y Prif Weinidog gan Gyswllt Amgylchedd Cymru - Bioamrywiaeth

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(15.40-16.00)

6.

Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.