Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/02/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(9.30-10.45)

2.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU- sesiwn dystiolaeth 1

Haydn Evans, Cadeirydd – Fforwm Organig Cymru

Roger Kerr, Prif Swyddog Gweithredol – Ffermwyr a Thyfwyr Organig

Christopher Stopes, Swyddog Polisi - Ffermwyr a Thyfwyr Organig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Haydn Evans, Fforwm Organig Cymru; Roger Kerr, Ffermwyr a Thyfwyr Organig; a Christopher Stopes, Ffermwyr a Thyfwyr Organig.

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

3.1

Gohebiaeth gan Nest - Tlodi Tanwydd

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

5.

Trafod tystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2; a thrafodaeth ar ddull gweithredu’r Pwyllgor ar gyfer gwaith yn y dyfodol mewn perthynas â materion llifogydd yn dilyn Storm Ciara a Storm Dennis.

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitem 2.

5.2 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gwaith mewn perthynas â’r llifogydd diweddar ar draws Cymru, a chytunwyd i gynnal ymchwiliad byr i’r mater.