Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/10/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew RT Davies AC.

 

(09:30-11.00)

2.

Sesiwn graffu gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Tom Henderson, Rheolwr y Bil Syrcas – Llywodraeth Cymru

Richard Lewis, Cyfreithiwr - Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru

Jackie Price, Uwch Swyddog Cyfrifol, Bil Syrcas - Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru gwestiynau gan Aelodau ynghylch y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

2.2 Cytunodd y Gweinidog i sicrhau bod ei llythyr ar gael i Brif Weithredwr y Kennel Club ynghylch y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosion Anifeiliaid) (Cymru) 2020 drafft.

 

 

 

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

3.1

Diweddariad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth mewn perthynas ag adroddiad y Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-2020

Dogfennau ategol:

3.2

Gohebiaeth gan Chris Barltrop ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.3

Gohebiaeth gan Circus Mondao ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.4

Gohebiaeth gan PAWSI ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Dogfennau ategol:

3.5

Gohebiaeth gan Rachael Smith ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Dogfennau ategol:

4.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a’r materion allweddol a nodwyd o dan eitem 2

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a’r materion allweddol a nodwyd o dan eitem 2.

4.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol y mae am eu codi yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

 

5.

Trafod adroddiad dilynol y Pwyllgor ar gynnydd Llywodraeth Cymru ar reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) yng Nghymru

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau.