Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC.

 

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC a Jenny Rathbone AC.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 3, 4 a 7 o’r cyfarfod heddiw

Cofnodion:

2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitemau 3, 4 a 7 o’r cyfarfod heddiw.

 

3.

Trafod y flaenraglen waith

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Flaenraglen Waith a gyhoeddir ar ei wefan yn nhymor yr hydref.

 

4.

Egwyddorion a Llywodraethu Amgylcheddol ar ôl Brexit - trafod llythyr drafft at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft, yn amodol ar fân newidiadau.

 

5.

Y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Jackie Price, Uwch Swyddog Cyfrifol,  Bil Syrcas – Llywodraeth Cymru

Richard Lewis, Cyfreithiwr, Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru – Llywodraeth Cymru

Tom Henderson, Rheolwr y Bil Syrcas – Llywodraeth Cymru

 

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; Jackie Price, Uwch-swyddog Cyfrifol, Llywodraeth Cymru; Richard Lewis, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru, a Tom Henderson, Uwch-reolwr y Bil, Llywodraeth Cymru.

 

6.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

6.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd - Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Cadeirydd - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21

Dogfennau ategol:

7.

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - Trafod y dystiolaeth a gafwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig o dan eitem 5

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 5.