Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Neil Hamilton AC i'r Pwyllgor.

 

(09.15-10.15)

2.

Egwyddorion Amgylcheddol a Llywodraethu ar ôl Brexit – sesiwn dystiolaeth 5

Anne Meikle, Head - World Wide Fund for Nature (WWF) Cymru

Llinos Price, Swyddog Polisi Cymru – Coed Cadw

Annie Smith, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anne Meikle, Pennaeth World Wildlife Fund (WWF) Cymru; Llinos Price, Swyddog Polisi Cymru, Coed Cadw; ac Annie Smith, Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru.

 

3.

Papur (au) i'w Nodi

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

 

3.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd - Cyfarfod Grŵp Rhyng-Weinidogol Ynni a Newid Hinsawdd (IMG)

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6 a 7 yn y cyfarfod heddiw.

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6 a 7 yn y cyfarfod heddiw.

 

5.

Egwyddorion Amgylcheddol a Llywodraethu ar ôl Brexit - Ystyried y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

6.

Blaenraglen Waith - Ystyried yr amserlen ar gyfer y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer ystyried y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ar y mater hwn.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i'w gyfarfod ddydd Iau 18 Gorffennaf 2019 i roi tystiolaeth mewn perthynas â'r Bil.  Mae hyn yn amodol ar gyflwyno'r Bil erbyn y dyddiad hwnnw.

 

7.

Briff: Mynd i'r afael â'r bwlch o ran polisi hinsawdd yng Nghymru

Dr Filippos Proedrou, Cymrawd Ymchwil - Prifysgol De Cymru:

 

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor friff gan Filippos Proedrou, Cymrawd Ymchwil, Prifysgol De Cymru, ar ymchwil a wnaed ar ran y Cynulliad ar fynd i'r afael â'r bwlch polisi hinsawdd yng Nghymru.