Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 3.

Cofnodion:

2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 3 y cyfarfod heddiw.

 

(09.15-09.45)

3.

Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit - Briffio Preifat

Graham Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Uned Ymadael â’r UE a’r Strategaeth, Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Llywodraeth Cymru

Lori Frater, Pennaeth Polisi Amgylcheddol Strategol – Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor friff technegol gan Graham Rees a Lori Frater, Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad ar ‘Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit’.

 

(09.45-11.00)

4.

Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit - Sesiwn dystiolaeth 1

Yr Athro Richard Cowell, yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

Dr Mary Dobbs, Cyfarwyddwr, Rhaglen Meistr yn y Gyfraith (MLaw), Ysgol y Gyfraith – Prifysgol Queen's, Belfast

Dr Ludivine Petetin, Darlithydd yn y Gyfraith, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth – Prifysgol Caerdydd

Dr Victoria Jenkins, Gweithgor Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU yng Nghymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Richard Cowell, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd; Dr Mary Dobbs, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyfraith Meistr, Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Queen’s, Belfast; Dr Ludivine Petetin, Darlithydd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd; Dr Victoria Jenkins, Gweithgor Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU Cymru.

 

(11.00-11.05)

5.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

5.1

Gohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru at y Cadeirydd - yn dilyn y cyfarfod ar 10 Ionawr 2019

Dogfennau ategol:

5.2

Gohebiaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Cadeirydd - Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

5.3

Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd - Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol

Dogfennau ategol:

5.4

Gohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru at y Cadeirydd - Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 7 ac 8

Cofnodion:

6.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 7 ac 8 o’r cyfarfod heddiw.

 

7.

Egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit - Trafod y dystiolaeth a dderbyniwyd o dan eitem 4

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 4.

 

8.

Cynnig ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru

Cofnodion:

8.1 Cytunodd yr Aelodau i gynnal digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher 24 Gorffennaf.

 

8.2 Trafododd yr Aelodau gynnwys a fformat arfaethedig y digwyddiad. Bydd cynigion mwy manwl yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w cytuno mewn cyfarfod yn y dyfodol.