Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC.

 

(09.30-10.30)

2.

Rhandiroedd: sesiwn dystiolaeth gyda gweinyddwyr rhandiroedd

Paul Egan, Dirprwy Brif Weithredwr a Rheolwr Adnoddau - Un Llais Cymru

Peter Newton, Swyddog Polisi, Datblygu ac Arloesi - Cyngor Tref Penarth
Lee Davies, Rheolwr Amwynderau - Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn
Neville Rookes, Swyddog Polisi - yr Amgylchedd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Paul Egan, Dirprwy Bennaeth a Rheolwr Adnoddau, Un Llais Cymru; Peter Newton, Swyddog Arloesi a Datblygu Polisi, Cyngor Tref Penarth; Lee Davies, Rheolwr Amwynderau, Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn; a Neville Rookes, Swyddog Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

(10.40-11.30)

3.

Rhandiroedd: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gymdeithas Genedlaethol Rhandiroedd

Judith Hill, Cynrychiolydd Rhanbarthol Cymru - Cymdeithas Genedlaethol Rhandiroedd

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor ymddiheuriadau gan Judith Hill, Cynrychiolydd Rhanbarthol Cymru, y Gymdeithas Rhandiroedd Genedlaethol, a oedd yn methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

(11.30-11.35)

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

4 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

4.1

Gohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru at y Cadeirydd yn dilyn y sesiwn graffu flynyddol ar 13 Chwefror

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn ag ymchwiliad dilynol y Pwyllgor i reoli Ardaloedd Gwarchodedig Morol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan NFU Cymru ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth gan Hybu Cig Cymru ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

4.6

Gohebiaeth gan Dr Ludivine Petetin a Dr Mary Dobbs ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

4.7

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Awdurdodau Afonydd a Draenio Tir

Dogfennau ategol:

4.8

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dilyn y sesiwn graffu flynyddol ar 27 Mawrth

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6, 7 ac 8

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6, 7 ac 8 o'r cyfarfod heddiw.

 

6.

Lleihau gwastraff plastig: trafod adroddiad drafft y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 

7.

Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i aros nes bod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach yn cael eu gosod cyn llunio unrhyw adroddiad atodol.

 

8.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth. Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft yn ei gyfarfod ar 22 Mai.