Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/02/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cyhoeddodd y Cadeirydd y bydd Dai Lloyd AC yn disodli Helen Mary Jones AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.

1.3        Diolchodd y Cadeirydd i Helen Mary Jones AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor.

1.4        Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC.

1.5        Cyfeiriodd Joyce Watson AC y Pwyllgor at ei diddordeb cofrestredig.

 

(09.30 -10.30)

2.

Trafod y Cynllun Bioamrywiaeth – Nwyddau Cyhoeddus: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr grwpiau’r amgylchedd a chadwraeth

Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol - Ymddiriedolaethau Natur Cymru
Jerry Langford, Rheolwr Materion Cyhoeddus Cymru - Coed Cadw

Laurence Brooks, Ymgynghorydd Ecolegol - Cynllunio Ecoleg

Robert Vaughan, Rheolwr Defnydd Tir Cynaliadwy - Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr grwpiauu'r amgylchedd a chadwraeth.

 

(10.40-11.40)

3.

Trafod y Cynllun Bioamrywiaeth – Nwyddau Cyhoeddus: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr Dŵr Cymru, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Chymdeithas Ecolegol Prydain

Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff - Dŵr Cymru

Emyr Williams, Prif Weithredwr - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Geraint Jones, Swyddog Cadwraeth Ffermio - Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Brendan Costelloe, Rheolwr Polisi - Cymdeithas Ecolegol Prydain 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Dŵr Cymru, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Chymdeithas Ecolegol Prydain.

 

(11.40)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4. Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 4.

 

4.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch Bil yr Amgylchedd drafft Llywodraeth y DU a chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraethu amgylcheddol

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth ychwanegol gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor – 'Effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru'

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch y dull gweithredu ar sail canlyniadau o ran y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch trafodaethau gyda’r Grŵp Llywio ar y Môr a Physgodfeydd mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU

Dogfennau ategol:

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6 a 7

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 6 a 7 yng nghyfarfod heddiw.

 

(11.40-12.10)

6.

Y Cynllun Bioamrywiaeth – Nwyddau Cyhoeddus: ystyried y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

 

(12.10 -12.30)

7.

Y flaenraglen waith: y dull o fynd i’r afael ag egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol

Cofnodion:

7.1. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ystyried y materion sy'n ymwneud ag egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol ymhellach.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymgymryd â gwaith pellach ar egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol ar bwynt priodol yn ei raglen waith, ac ar ôl cyhoeddi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.