Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/06/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Roedd Siân Gwenllian AC yn dirprwyo ar ran Dai Lloyd AC.

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 3

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.30 - 11.00)

3.

Papur briffio gan Lywodraeth Cymru ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru

Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio

Gareth Hall, Uwch-reolwr Cynllunio - Cynlluniau

Jonni Tomos, Uwch-reolwr Cynllunio - Ymaddasu i Newid Hinsawdd

Gemma Christian, Rheolwr Cynllunio -Tîm y Mesur Cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau gyflwyniad a chyfle i ofyn cwestiynau am Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru.

 

5.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau a chytunwyd y bydd y Pwyllgor yn craffu ar y gwaith o gyflwyno rhaglen Arbed 3.

 

5.1

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ynghylch Arbed 3

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018 – 15 Mai 2018

Dogfennau ategol:

(11.10 - 12.10)

4.

Trafodaeth ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru

John Davies MBE, cyn Gadeirydd y Grŵp Cynghori Annibynnol ar Ddiwygio'r System Gynllunio yng Nghymru

Neil Harris, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd

 

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y caiff y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Ebrill 2020.