Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.

(13.45 - 15.00)

2.

Gwaith gwaddol: adfer natur

Rachel Sharp, Prif Weithredwr - Ymddiriedolaethau Natur Cymru, yn cynrychioli Cyswllt Amgylchedd Cymru

Annie Smith, Pennaeth Polisi Natur a Gwaith Achos - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru

Arfon Williams, Pennaeth Polisi Tir a Môr – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru

Clare Trotman, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth (Cymru) neu Gill Bell, Pennaeth Cadwraeth Cymru – Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyswllt Amgylchedd Cymru; Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru,  ac Y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

(15.10-16.25)

3.

Gwaith gwaddol: allforion bwyd

Gwyn Howells, Prif Weithredwr – Hybu Cig Cymru

Yr Athro Terry Marsden - Athro Emeritws mewn Polisi a Chynllunio Amgylcheddol – Prifysgol Caerdydd

Pete Robertson, Prif Weithredwr – Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Yr Athro Terry Marsden a chynrychiolwyr o Hybu Cig Cymru, a Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru.

(16.25)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1Cafodd y papurau eu nodi.

4.1

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Rhestrau Gwledydd Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) 2021

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cymru'r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cyfarfod Gweinidogol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC) ar y Cyd rhwng Tai a Chynllunio Gofodol

Dogfennau ategol:

(16.25)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.

Gwaith gwaddol: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.