Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd
a Materion Gwledig. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(14:00-15:30) |
COVID 19: Sesiwn dystiolaeth gyda Lywodraeth Cymru Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni
a Materion Gwledig Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Yr Amgylchedd
a’r Môr – Llywodraeth Cymru Christianne Glossop, Swyddfa'r Prif Filfeddyg -
Llywodraeth Cymru John Howells, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Ynni a
Chynllunio - Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau
- Llywodraeth Cymru Keith Smyton, Pennaeth yr Adran Bwyd - Llywodraeth
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Aelodau
yn holi Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’i swyddogion am
Covid-19 a’i effaith y sector amaethyddiaeth, cyflenwi bwyd a lles anifeiliaid,
ac ymateb ei hadran hyd yma i’r pandemig. |
|
Papur i’w nodi Cofnodion: 3.1Cafodd y papur
ei nodi. . |
||
Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodefydd y DU Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
||
Covid-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn graffu. Cytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod
y sesiwn. |
||
Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 6.1Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni. |
||
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno. |