Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/03/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC.

(09.10-10.15)

2.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU - sesiwn dystiolaeth 1

Yr Athro Richard Barnes, Deon Cyswllt ar gyfer Ymchwil – Prifysgol Hull

Griffin Carpenter, Uwch-ymchwilydd - New Economics Foundation

Dr Bryce Stewart, Uwch-ddarlithydd – Adran yr Amgylchedd a Daearyddiaeth, Prifysgol Caerefrog

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Yr Athro Richard Barnes, Prifysgol Hull; a Griffin Carpenter, New Economics Foundation.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dr Bryce Stewart, Prifysgol Caerefrog.

 

(10.15-11.00)

3.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU - sesiwn dystiolaeth 2

Jim Evans, Cadeirydd – Cymdeithas Pysgotwyr Cymru

James Wilson, Cyfarwyddwr - Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jim Evans, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru.

3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan James Wilson, Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor.

 

(11.10-12.00)

4.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Pysgodfeydd y DU - sesiwn dystiolaeth 3

Gareth Cunningham, Prif Swyddog Polisi, Morol – Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru

Debbie Crockard, Rheolwr Polisi Pysgodfeydd - Cymdeithas Cadwraeth Forol – yn cynrychioli Greener UK

Sarah Denman, Cyfreithiwr UK Environment - Client Earth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Cunningham, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru; Debbie Crockard, Greener UK; a Sarah Denman, Client Earth.

 

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

5.1

Tystiolaeth ysgrifenedig ar y MCD mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU gan Dr Ludivine Petetin, Yr Athro Jo Hunt, Yr Athro Ben Pontin, Dr Huw Pritchard – Prifysgol Caerdydd; a Dr Mary Dobbs – Queen’s University Belfast

Dogfennau ategol:

5.7

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Tlodi Tanwydd

Dogfennau ategol:

5.3

Gohebiaeth wrth y Llywydd i'r Cadeirydd; ac wrth y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd at y Llywydd - Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

6.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

7.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2,3 a 4

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2,3 a 4.

8.

Trafod Adroddiad drafft y Pwyllgor ar Dlodi Tanwydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.